Caernarfon Castle / Castell Caernarfon
Description
A brute of a fortress. Caernarfon Castle’s pumped-up appearance is unashamedly muscle-bound and intimidating. Picking a fight with this massive structure would have been a daunting prospect. By throwing his weight around in stone, King Edward I created what is surely one of the most impressive of Wales’s castles. Worthy of World Heritage status no less.
Most castles are happy with round towers, not Caernarfon! Polygonal towers were the order of the day, with the Eagle Tower being the most impressive of these. You will also note the colour-coded stones carefully arranged in bands.
The site of this great castle wasn’t chosen by accident. It had previously been the location of a Norman motte and bailey castle and before that a Roman fort stood nearby. The lure of water and easy access to the sea made the banks of the River Seiont an ideal spot for Edward’s monster in masonry.
Edward wasn’t one to miss an opportunity to tighten his grip even further on the native population. The birth of his son, the first English Prince of Wales, in the castle in 1284, was a perfect device to stamp his supremacy. In 1969, the investiture of the current Prince of Wales, HRH Prince Charles took place here.
Caernarfon is one of eight sites chosen by Cadw as a hub for community projects in support of the Cultural Olympiad celebrations in Wales
-------------------------------------------------------------------------------------------
Cawres o gaer. Mae cadernid anhygoel Castell Caernarfon yn bresenoldeb bygythiol. Byddai ymosod ar y strwythur enfawr hwn wedi bod yn syniad brawychus. Drwy ddefnyddio carreg i bwysleisio ei awdurdod, creodd y Brenin Edward I un o’r cestyll mwyaf trawiadol yng Nghymru. Yn gwbl haeddiannol o statws Treftadaeth y Byd.
Tyrau crwn sy’n nodweddu’r rhan fwyaf o gestyll, ond nid Caernarfon! Tyrau polygon a welir yma, gyda Thŵr yr Eryr yn goron arnynt. Sylwch hefyd ar y ffordd mae’r cerrig wedi’u trefnu’n ofalus mewn bandiau lliw.
Nid ar ddamwain y dewiswyd lleoliad y castell mawreddog hwn. Castell mwnt a beili Normanaidd a welwyd ar y safle yn flaenorol, a chyn hynny safai caer Rufeinig gerllaw. Roedd atynfa’r dŵr a mynediad hawdd i’r môr yn golygu bod glannau Afon Seiont yn fan delfrydol ar gyfer y cawr hwn o gastell a adeiladwyd gan Edward.
Nid oedd Edward yn un i golli cyfle i atgyfnerthu ei afael ar y boblogaeth frodorol. Roedd genedigaeth ei fab, Tywysog Seisnig cyntaf Cymru, yn y castell yn 1284, yn ffordd berffaith o ddangos ei oruchafiaeth. Yn 1969, cafodd Tywysog presennol Cymru, EUB Tywysog Siarl ei arwisgo yma.
Mae Castell Caernarfon yn un o wyth safle a ddewiswyd gan Cadw fel canolfan ar gyfer prosiectau cymunedol i gefnogi dathliadau’r Olympiad Diwylliannol yng Nghymru
Tell your friends
RECENT FACEBOOK POSTS
facebook.com⚠️ Yn anffodus mae’r safle ar gau oherwydd y tywydd garw. ❄️
⚠️ Unfortunately the site is closed due to adverse weather ❄️
Mae rhai o’n safleoedd wedi cau oherwydd y tywydd garw. Ffoniwch y safle cyn ymweld os gwelwch yn dda i sicrhau ei fod ar agor.
Some of our sites are closed due to adverse weather. Please call the site before visiting to check it’s open #CadwClosures
Dydd Gŵyl Dewi Hapus | Happy St David's Day 🌊🐲 Watch with the 🔈 on!
Dydd Gŵyl Dewi Hapus 🌊🐲 Gwyliwch gyda'r 🔈 'mlaen!
Don’t forget it’s free entry to Cadw sites tomorrow to celebrate St David’s Day! If the site is shut due to weather conditions free entry will be offered the following day.
Peidiwch ag anghofio bod mynediad am ddim i safleoedd Cadw fory i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Os yw’r safle ar gau oherwydd y tywydd bydd mynediad am ddim y diwrnod canlynol.
Want to work in a castle, historic building or for Welsh Government? We have a number of custodian posts available across North and South Wales! http://ow.ly/kYhr30iFnSk
Ydych chi eisiau gweithio mewn castell, adeilad hanesyddol neu i Lywodraeth Cymru? Mae nifer o swyddi ceidwaid ar gael ar draws gogledd a de Cymru! http://ow.ly/e7q730iFnPX
Mynediad am ddim i bawb i safleoedd Cadw ar Ddydd Gŵyl Dewi! 🌼 http://ow.ly/5H1730izt8D
Free entry for everyone into Cadw sites on St David’s Day! 🌼 http://ow.ly/uBiR30iztm9